Mae Cyngor Sir Powys yn awyddus i wybod pa effaith y mae’r coronafeirws yn ei gael ar eich busnes a pha gefnogaeth sydd ei angen arnoch nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i helpu busnesau trwy’r cyfnod anodd hwn. Byddwn yn defnyddio eich sylwadau wrth i ni drafod a gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru a’n sefydliadau partner i sicrhau fod Powys ar y ffordd i wella.
Ni ddylai’r arolwg gymryd dros 10 munud i’w lenwi.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ar gymorth busnes Covid-19, ewch i wefan benodol y cyngor ar: https://cy.powys.gov.uk/coronafeirws
Sylwch: Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a diogelu eich preifatrwydd wrth ymateb i arolwg ar y porth hwn. Pe byddech yn rhoi unrhyw ddata personol (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), rydym am i chi wybod y bydd yn cael ei gadw’n ddiogel am gyfnod penodol yn unig, a’i ddefnyddio at y dibenion sydd yn yr arolwg yn unig gan gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Cliciwch ar y tab Preifatrwydd ar waelod y dudalen i wybod mwy.
Share
Share on Twitter Share on Facebook