Mae’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn nodi bod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gludo dysgwyr i’w hysgol addas agosaf os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf cymhwyster o ran pellter. Cafodd Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol/Coleg presennol y Cyngor ei gymeradwyo yn 2018. Fodd bynnag ers ei weithredu ym mis Medi 2019, mae wedi dod yn amlwg bod angen adolygu’r polisi ymhellach i leihau amwysedd er mwyn sicrhau y gellir gweithredu’r polisi’n gyson.
Mae’r polisi diwygiedig wedi’i symleiddio o ran ei gynnwys a’i gyflwyniad. Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn:
Newid arfaethedig |
Rheswm am y newid |
Eglurder am y dyletswydd i hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn ôl y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, rhaid i bob awdurdod lleol ‘hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg pan yn ymgymryd â swyddogaethau o dan y Mesur hwn’. Byddai hyn yn golygu, lle mae ysgol dalgylch agosaf dysgwr yn ysgol cyfrwng Cymraeg, byddai cludiant dim ond yn cael ei ddarparu i’r ysgol honno – mae’r polisi cyfredol yn nodi y darperir cludiant i’r ysgol addas agosaf sy’n darparu addysg yn yr iaith a ddewisir. |
I gydymffurfio â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ac argymhellion Arolwg Estyn 2019. |
Dileu’r arfer o ad-dalu dysgwyr 16 – 19 oed sy’n teithio allan o’r sir i astudio.
|
Ar hyn o bryd, mae’r awdurdod yn gwario tua £75,000 yn cyfrannu at gludiant i ddysgwyr sy’n teithio allan o Bowys. |
Dilau’r arfer o ddarparu cludiant yn dilyn newid i’r man lle mae dysgwr fel arfer yn byw ym mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13. |
Dewis rhiant/gwarcheidwad yw hi i newid y man lle mae dysgwr fel arfer yn byw. Rhaid i’r rhiant/gwarcheidwad wneud cais am gludiant yn seiliedig ar y cyfeiriad newydd, a bydd y meini prawf cymhwyster arferol yn berthnasol. |
Cadarnhau’r broses o wneud apêl i’w wneud yn fwy clir. Cadarnhau mae cyfrifoldeb yr Uned Cludiant i Deithwyr Corfforaethol yw penderfynu ar gymhwyster am gludiant yn yr achos cyntaf ac nid y Prif Swyddog Derbyniadau a Chludiant. Os bydd apêl yn mynd i’r ail gam, bydd y penderfyniad gweithredol terfynol yn cael ei wneud gan y Pennaeth Priffyrdd, Cludiant ac Adilgylchu. |
Ers 2019, mae cyfrifoldeb am y gyllideb ar gyfer cludiant o’r cartref i’r ysgol wedi symud o’r Gwasanaeth Ysgolion i’r Gwasanaeth Priffyrdd, Cludiant ac Ailgylchu i wella rheolaeth gweithredol. I sicrhau nad oes risg y bydd apeliadau’n cael eu herio oherwydd gwahaniaethau gwleidyddol. Mae achosion unigol yn fater ar gyfer gwneud penderfyniadau gweithredol. |
Ar y 9fed Mehefin 2020, fe wnaeth Cabinet y Cyngor gymeradwyo ymgynghori ar y polisi drafft. Bydd yr ymgynghoriad yn gorffen ar 27 Gorffennaf 2020.
Gallwch weld y polisi drafft isod:
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Adroddiad Ymgynghori yn cael ei baratoi yn crynhoi’r materion a godwyd yn y cyfnod ymgynghori, a chaiff y Polisi ei ddiweddaru fel y bydd angen. Caiff yr Adroddiad Ymgynghori a fersiwn ôl-ymgynghori o’r polisi eu hystyried gan y Cabinet ym mis Medi 2020.
Bwriedir y caiff y polisi diwygiedig ei weithredu o fis Medi 2021.
Os oes angen copi wedi’i brintio o’r ddogfen hon arnoch, neu gopi mewn fformat gwahanol, cysylltwch â’r Tîm Trawsnewid Ysgolion ar 01597 826277, neu anfonwch e-bost at school.organisation@powys.gov.uk.
Noder: Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg trwy’r porth hwn. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol i ni (eich enw llawn, eich cyfeiriad neu'ch rhif ffôn), hoffem i chi wybod y caiff ei gadw'n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a ddefnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab Preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael gwybod mwy.
Share
Share on Twitter Share on Facebook